Mae Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn falch o gyhoeddi bod Virgin Media O2 Business wedi gorffen adeiladu dolen rhwydwaith ffeibr tywyll ar draws wyth safle PCYDDS yn Abertawe.

Mae'r rhwydwaith ffeibr tywyll yn cynnig capasiti a chyflymderau diderfyn i bob diben, gyda'r ddolen arloesol yn sicrhau llif data parhaus rhwng safleoedd addysgol. Bydd ymchwil, addysgu a chydweithio ar draws y maes academaidd yn elwa o achos hyn. Bydd y rhwydwaith, sy'n hygyrch i safleoedd cysylltiedig yn unig, hefyd yn darparu cysylltedd diogel, cyflym a lle i ymestyn, gan wella effeithlonrwydd systemau mewnol, tra'n rhoi mwy o allu i gynyddu i weddu i ofynion y sector.

Bydd y rhwydwaith yn cynyddu'r lled band ar unwaith i 40Gbps, gyda'r potensial ar gyfer 100Gbps rhwng campysau yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu bod holl gampysau Abertawe bellach wedi'u cysylltu ar gyflymderau eithriadol o uchel sydd fel arfer ar gael mewn un campws yn unig, ac mae sicrwydd o gyflymderau uwch byth yn y dyfodol, gan roi profiad tebyg i fyfyrwyr ar draws SA1 yn y tymor byr a'r tymor hir.

Bydd hyn yn galluogi addysgu hyblyg iawn, ffrydio fideo o ansawdd uchel iawn, ac amgylcheddau dysgu drwy ymdrochi, tra hefyd yn cefnogi ymchwil yn y dyfodol, yn ogystal ag atebion campws clyfar i wella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd.

Mae'r seilwaith hwn yn golygu y gellir ailgyfeirio traffig ar unwaith os oes tarfu ar y rhwydwaith, gan gynnal cysylltedd dibynadwy a sicrhau gweithgarwch academaidd di-dor.

Dywedodd James Cale, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant:

Mae hwn yn gyfnod cyffrous lle byddwn ni nawr yn dechrau gweld manteision rhwydwaith ffeibr tywyll ar draws campysau. Mae'r gallu i fanteisio ar dechnoleg yn llawn o fewn dosbarth neu amgylchedd ymchwil yn cynnig ystod ehangach o gyfleoedd i academyddion a myfyrwyr, gan wneud ein safleoedd yn fwy diogel o ran data; rhywbeth sydd ei angen yn eang i ddiogelu addysg bellach yn y rhanbarth hwn.
James Cale, Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Mae'r prosiect hwn yn gwireddu uchelgais y Rhaglen Seilwaith Digidol o sicrhau bod y Brifysgol a chyrff sector cyhoeddus yn cael mynediad at yr adnoddau technolegol gorau posibl. Mae'n rhoi cyfleoedd di-ben-draw i gydweithio rhwng sefydliadau ac yn cyflymu arloesi technolegol ar draws gwasanaethau sector cyhoeddus.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe:

Mae hon yn garreg filltir wych yng nghynllun y rhanbarth i fabwysiadu technoleg newydd i'n gwasanaethau sector cyhoeddus. Mae creu ffyrdd mwy cadarn o gydweithio, rhannu data a ffyrdd o ymchwilio yn sylfaenol i'r modd rydyn ni'n meithrin arferion gorau ar draws ein safleoedd addysg a gofal iechyd, a fydd ond yn creu rhagor o gyfleoedd arloesi yn y dyfodol.
Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe

Bydd y rhwydwaith newydd hwn, a fydd ar gael yn llawn erbyn mis Rhagfyr 2025, yn cynnig gwell capasiti a chyflymder a bydd yn caniatáu i lawer iawn o ddata gael ei rannu a'i gadw'n ddiogel. Ar ôl ei gwblhau, bydd y rhwydwaith ffeibr tywyll pwrpasol yn cysylltu 36 o safleoedd sector cyhoeddus ledled Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, gan gynnwys awdurdodau lleol, partneriaid addysg a gofal iechyd.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn neu i ofyn cwestiynau am gysylltedd digidol yn eich ardal, siaradwch â'ch Hyrwyddwr Digidol lleol.